Re: [gnome-cy] Rhestr pecynnau terfynol ar gyfer Gnome 2.6 (fwd)



Ar 23/01/2004 am 13:46, ysgrifennodd Rhys Jones:
> Mwy na thebyg fod nifer ohonoch eisioes yn tanysgrifio i gnome-i18n. I'r 
> gweddill ohonoch, dyma'r newyddion mawr:
> 
> bydd evolution yn rhan o 2.6.

Ie, dyma'r newyddion mawr.

> Dwi yn deall oddi wrth Dafydd Harries fod y pecyn wedi rhyw 2/3 ei
> gyfieithu ar gyfer 2.4, felly 'dim ond' tua 1500 o linynnau ychwanegol
> fydd rhaid i ni eu cyfieithu o'r newydd yn yr holl becynnau enwir isod.

Fe wnaf i gydweddu'r ffeil gyda'r fersiwn diweddara o CVS a wedyn cawn
ni rhyw syniad ynghylch faint o waith sydd angen gwneud.

> ON Dafydd, dwi wedi hawlio epiphany, os ydy hynny'n iawn.

Mae hynny'n iawn gen i.

> ---------- Forwarded message ----------
> Date: Fri, 23 Jan 2004 14:22:05 +0100
> From: Danilo Segan <danilo gnome org>
> To: gnome-i18n gnome org
> Subject: Module decisions for Gnome 2.6

...

> Here's a list of all modules that got included:
>  o dasher

Mae Telsa wedi cyfieithu tipyn o hyn eisioes.

>  o evolution, evolution-data-server, gal, gtkhtml3

Cyhyd rydw i'n gwybod, dydym ni heb ddechrau cyfieithu
evolution-data-server, gal na gtkhtml3.

>  o gnome-netstatus:

Heb ei gychwyn.

>  o libxklavier (check TP for this translation, xfree86_xml or something)

Dwi ar fin cychwyn tîm Cymraeg fel rhan o'r TP efo'r rhestr trafod
newydd.

> There are two more that are undecided:
>  o rhythmbox

Mae hyn wedi ei gyfieithu gan Keith a Telsa eisioes, a dim ond ychydig o
ddiweddaru sy'n angherheidiol.

>  o gnome-system-tools

Heb ei gyfieithu eto.

O hyn ymlaen, baswn i'n gwerthfawrogi derbyn ffeiliau `.diff' yn hytrach
na `.po'. Er enghraifft:

$ # diweddaru cyfieithiad yelp
$ # cael gafael ar y ffeil
$ wget http://developer.gnome.org/projects/gtp/status/gnome-2.6/PO/yelp.HEAD.cy.po
...
$ # creu copi o'r ffeil heb ei newid
$ cp yelp.HEAD.cy.po yelp.HEAD.cy.po.orig
$ # golygu'r ffeil
$ $EDITOR yelp.HEAD.cy.po
$ # creu clwt -- nodwch y `-u'
$ diff -u yelp.HEAD.cy.po.orig yelp.HEAD.cy.po > yelp.HEAD.cy.po.diff

Yna, ebostio'r ffeil `.diff' ata i. Fe fydda i'n edrych drosto, a'i roi
yn CVS. Os ydw i'n anghytuno gyda rhai o'r newidiadau, fe fydda i'n eu
trafod gyda chi yn gyntaf.

Rhaid i fi ymddiheuro i'r rheiny sydd wedi anfon cyfieithiadau ata i nad
ydw i wedi eu gwirio eto (Rhys, Keith, Telsa, ...). Rydw i wedi bod yn
eitha prysur yn ddiweddar. Efallai fe ddyla i rhoi'r newidiadau yn CVS
yn gyntaf, a'i cywiro nhw wedyn.

-- 
Dafydd

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]