Re: [gnome-cy] Sut i nodi newidiadau sydd eu hangen?



Ar Fri, Dec 12, 2003 at 04:48:17PM +0000, ysgrifennodd Rhys Jones:
> Wrth ddefnyddio'r gwahanol raglenni, mi ydw i wedi dod ar draws ambell
> wall (nid nifer fawr o gwbl). Nid gwallau ieithyddol yw'r rhain gan amlaf;  
> credaf mai teipos yw y mwyafrif ('Micsrosoft', 'gosodf', '>aomt' ac yn y
> blaen). Oes yna unrhyw ffordd i nodi'r rhain gennym? A yw hi'n well i mi
> ddefnyddio Bugzilla GNOME ar gyfer y pecynnau unigol, neu gadw rhestr
> ohonynt fy hun? A oes unrhyw un yn gwybod beth a wneir ar gyfer ieithoedd
> eraill?

Mae system mewn lle ar gyfer adrodd namau yn erbyn cyfieithiadau. Mae
pecyn o'r enw "l10n" yn Bugzilla GNOME, efo cydran ô'r enw "cy". (Mae
cydrannau eraill sy'n bridodol i'r ieithoedd eraill.) Rhaid mynd i'r
cyfeiriad dilynnol er mwyn adrodd nam:

	http://bugzilla.gnome.org/enter_bug.cgi

Os gweli di'n dda, a wneud di adrodd namau am y camgymeriadau rwyt ti wedi
gweld? Mae hyn yn briodol i unrhwyun sy'n gweld cangymeriadau. Wrth
gwrs, croeso i chi atodi clwt at yr adroddiad nam, neu i anfon clwt yn
syth ata i.

> Hwyl, a diolch unwaith eto - mae defnyddio 2.4 yn Gymraeg wedi fy ysgogi i
> wneud rhagor o waith ar gyfieithu 2.6 :)

Gwych!

-- 
Dafydd

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]