[gnome-cy] Fwd: [ANNOUNCE]: Rhedadur/Konjugator



Helo,

Mae Kevin Donnelly, nad yw bellach ar restr gnome-cy, wedi gofyn i
fi a fedra i dynnu'ch sylw chi at y canlynol. Fe fydd y rhai ohonoch
sydd eisoes yn aelodau o'r rhestr e-gymraeg wedi gweld hyn yn barod,
felly ymddiheuriadau 'mlaen llaw am hynny.

Hwyl,
Rhys

----- Forwarded message from Kevin Donnelly <kevin DOTMON COM> -----

Date:         Thu, 28 Jul 2005 22:19:17 +0100
Reply-To: Meddalwedd Cymraeg/Welsh Software <E-GYMRAEG JISCMAIL AC UK>
From: Kevin Donnelly <kevin DOTMON COM>
Subject: [ANNOUNCE]: Rhedadur/Konjugator
To: E-GYMRAEG JISCMAIL AC UK

(Mae'r fersiwn Saesneg ar gael dan yr un Cymraeg)

Mae Rhedadur, sy'n gadael i chi redeg berfau Cymraeg dwry ryngwyneb porydd, ar 
gael rwan o http://www.rhedadur.org.uk.

Mae Rhedadur yn creu rhestr o tua 200,000 ffurfdroeon berfol ar gyfer bron 
4,000 berf Cymraeg, efo dehongliadau yn Saesneg a gwybodaeth dosrannu .  Yn 
ychwanegol, mi fydd Rhedadur yn ceisio rhedeg berfau Cymraeg sy'n anhysbys 
iddo, a bydd o'n rhoi manylion dosrannu ar gyfer ffurfdroeon Cymraeg os 
byddai'r rhain yn hysbys iddo.  (Noder - nid yw'r ymholiad dosrannu yn bosib 
ar y wefan ar hyn o bryd, gan fod y tabl yn rhy fawr i lanlwytho).  Mi fydd 
fersiwn nesaf Rhedadur yn dangos amserau cwmpasog wedi'u seilio ar bod, 
gwneud, daru, ayyb, ac yn gwneud mwy o waith ar ferfau afreolaidd a 
diffygiol.

Seilir Rhedadur ar nifer o lyfrau, yn eu mysg Y Llyfr Berfau (D Geraint 
Lewis), Geiriadur yr Academi, Y Geiriadur Mawr, A Guide to Correct Welsh 
(Morgan Jones), Modern Welsh (Gareth King), Geiriadur Prifysgol Cymru, ac 
eraill.  Hoffwn ddiolch i'r awduron yma i gyd am y syniadau a rodd eu gwaith 
i mi.  Rydw i wedi ceisio cysoni unrhyw anghysondeb tu mewn a rhwng y 
tarddiadau yma, ond y fi sy'n gyfrifol am unrhyw gamgymeriad yn Rhedadur.

Rhedadur yw'r peth cyntaf i ddod allan o waith dros y chwe mis diwethaf i greu 
casgliad o offer geiriadurol i Gymraeg sy'n hollol rydd (hy dan y GPL (gweler 
isod).  Ar hyn o bryd, does dim llawer o'r rhain (eitha' tebyg, yr unig un 
yw'r fersiwn myspell Canolfan Bedwyr).  Gobeithio bydd y casgliad yn cynnwys:
* gwirydd sillafu (bydd Rhedadur yn darparu'r ffurfiau berfol ar ei gyfer), 
* gwirydd gramadeg (prif ganolbwynt y gwaith ar hyn o bryd), 
* geiriadur, 
* a chyfieithydd sylfaenol Cymraeg-Saesneg.
Efallai bydd yn bosib ychwanegu rhagor o offer hwyrach ymlaen, a byddwn i'n 
meddwl hefyd am eu hintegreiddio i mewn i feddalwedd rhydd fath â KOffice. 

Mae'r holl waith yma wedi'i seilio ar waith ar gyfer Gwyddeleg ac ieithoedd 
lleiafrifol eraill gan Prof. Kevin P Scannell, ac rwyf yn ddiolchgar iawn 
iddo am ei gymorth a'i gyngor yn ystod y broses o drosi hyd yn hyn.  Mi fydd 
y corpws o 100m gair o Gymraeg gyfoes y mae o wedi'i adeiladu yn chwarae rhan 
bwysig wrth greu adnoddau fel y geiriadur.

Prif bwrpas datblygu'r offer geiriadurol yma (sy'n cymryd mwy o amser nag 
angen oherwydd y diffyg trist o adnoddau geiriadurol dan y GPL yn Gymraeg) yw 
symleiddio a gwella'r broses o leoleiddio meddalwedd rhydd yn Gymraeg (yn 
arbennig KDE), ond byddan nhw o ddiddordeb hefyd i ddefnyddwyr o feyseydd 
busnes ac addysg.

Byddwn i'n ddiolchgar os gallai pobl brofi allbwn Rhedadur, a gadael i mi 
wybod am wallau.  Mae'r mwyafrif o ferfau Cymraeg yn rheolaidd (er enghraifft, 
mae tua 28% o'r berfau yn y sampl yma yn gorffen efo -io, a 35% yn gorffen 
efo -u), ond mae 'na grwpiau bach o ferfau anghyson (ee -hau/áu, -ïo, -eld, 
-oi, etc) a berfau afreolaidd neu ddiffygiol (efallai llai na 500) - byddai 
ôlborth ar y rhain yn gymorthwyol iawn.  Mae'r rheolau am redeg berfau 
anhysbys (neu dychmygol!) yn gweithio yn dda yn fy mhrofion, ond mae'n eitha' 
tebyg bod gwelliannau yn bosib.

Mae'r sgriptiau PHP a'r tablau cronfa ddata MySQL ar gyfer Rhedadur ar gael o 
http://www.rhedadur.org.uk/lawrlwytho.php?lg=cy, os oes rhywun sydd eisiau 
chwarae efo'r rhaglen yn lleol.  Cysylltwch â mi yn uniongyrchol os oes 
gennych anhawsterau wrth arsefydlu neu ddefnyddio.  Noder bod yr adnoddau 
wedi'u rhyddau dan y Drwydded Gyhoeddus Gyffredin (GPL - gweler 
http://www.fsf.org/licensing/licenses/gpl.html am fanylion), ac mae pob 
defnydd ohonynt ym meddalwedd perthnasol yn golygu bod angen i'r meddalwedd 
perthnasol gael ei eil-drywddedu dan y GPL iddo gael ei ddosbarthu yn 
gyfreithlon.

====(Fersiwn Saesneg)

Konjugator, a browser-based conjugator for Welsh verbs, is now available at 
http://www.konjugator.org.uk.  

Konjugator produces an extensive list of around 200,000 inflected verb forms 
for almost 4,000 Welsh verbs, along with English glosses and parsing 
information .  Konjugator will also attempt to conjugate Welsh verbs that are 
unknown to it, and will give parsing details for random Welsh verb-forms if 
these are known to it.  (Note - the parsing query is not possible on the 
website at present, because the table is too big for the webspace).  The next 
version of Konjugator will also display periphrastic tenses based on bod, 
gwneud, daru, etc, and will revisit irregular and defective verbs.

A number of written sources form the basis for Konjugator, among them Y Llyfr 
Berfau (D Geraint Lewis), Geiriadur yr Academi, A Guide to Correct Welsh 
(Morgan Jones), Modern Welsh (Gareth King), Geiriadur Prifysgol Cymru and 
others.  I would like to thank all these authors for the ideas their work 
inspired.  I have tried to reconcile any anomalies within and between these 
sources, but any mistakes that remain are of course mine alone.  

Konjugator is the first deliverable from work over the last six months to 
create a fully free (ie GPLed - gweler isod) set of lexical tools for Welsh.  
(At the 
minute, the only one seems to be the Canolfan Bedwyr version of myspell.) 
These will include: 
* a spelling checker (for which Konjugator will provide more than 
200,000 verb-forms), 
* a grammar checker (the current main focus of work), 
* a dictionary (Aurfa/Eurfa mark 2!), 
* and a basic Welsh-English auto-translator.  
Other tools may be added later, and integration into free software such as 
KOffice will also be pursued.  

All of this work is based on work for Irish and other minority languages by 
Prof. Kevin P Scannell, and I am very grateful to him for his help and advice 
during the porting process so far.  In particular, the 1,000,000-word Welsh 
corpus he has built will be the main input to such items as the dictionary.

The prime aim in developing these lexical tools (which is more time-consuming 
than it need be because of the sad lack of GPLed lexical material in Welsh) 
is to simplify and improve the process of localising free software in Welsh 
(particularly KDE), but they will of course be of interest to business and 
educational users also.

I would be grateful if people could test Konjugator's output, and let me know 
of any errors.  The vast majority of Welsh verbs are regular (with around 28% 
of verbs in this sample ending in -io, for instance, and another 35% in -u), 
but there are small groups of anomalous verbs (eg -hau/áu, -ïo, -eld, -oi, 
etc) and defective or irregular verbs on which feedback would be most helpful 
- the number of these is probably less than 500 in total.  The rules for 
conjugating unknown (or invented!) verbs work well in my tests, but 
there are undoubtedly improvements to be made.

The PHP scripts and MySQL database tables for Konjugator are available 
http://www.rhedadur.org.uk/lawrlwytho.php?lg=en, 
if anyone would like to experiment with the app locally.  Contact me directly 
if you experience any installation or usage difficulties.  Please note that 
this material is released under the GNU General Public License (see  
http://www.fsf.org/licensing/licenses/gpl.html for more details), and any use 
of it in proprietary software means that that software must be relicensed 
under the GPL if it is to be distributed legally.

-- 

Pob hwyl / Best wishes

Kevin Donnelly

www.kyfieithu.co.uk - Meddalwedd Rhydd yn Gymraeg
www.cymrux.org.uk - Linux Cymraeg ar un CD!

----- End forwarded message -----


_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]