[gnome-cy] cyflwr cyfieithiad GNOME



Yn anffodus, rydw i wedi bod yn brysur iawn yn ddiweddar a heb gael
gyfle gwneud gwaith cyfeithu. Fe wnes i beth gyfieithu dros y penwythnos
a nawr mae'r cyfieithiad dros 80% eto.

Mae'r rhyddhad GNOME 2.8.1 i fod ddydd Mercher, ond mae'n amheus a fydd
cyfieithiadau a gaiff eu gwneud nawr yn cyrraedd y rhyddhad terfynol.
Fodd bynnag, dwi'n meddwl ei bod hi'n werth gorffen cymaint ac y gallwn
yn yr amser sydd ganddom ar ôl, ac anelu cael 100% erbyn 2.8.1.

Y prif beth o hyd yw Evolution. Dwi newydd wario rhai oriai arni, ond
mae 1810 neges ar ôl heb eu cyfieithu. Y modylau eraill sydd angen y
mwyaf o gyfieithiad yw gal, gnopernicus, gnome-system-tools a gtkhtml.

Gweler http://l10n-status.gnome.org/gnome-2.8/cy/desktop/ am fanylion.
(Mae hi ychydig yn hen ar hyn o bryd, ond fe ddylai fod yn gywir erbyn
bore fory.)

Reit, nawr dwi'n mynd i'r gwely.

-- 
Dafydd

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]