[gnome-cy] [Hysbysu] Mae Cymrux v0.4 "Mr Urdd" ar gael



Mae CDs ar gael gennyf fi fel arfer, a gobeithio gallu rhoi iso ar y w�ros y 
penwythnos (os mae Rhys a/neu Bryce yn fodlon?).  Ymddiheuriadau i'r rhai 
sy'n aros am CDs - roedd yn gwneud synnwyr i aros i 0.4 fod yn barod, yn lle 
anfon yr hen 0.3.

Mi fyddwn yn arddangos Cymrux a rhai pethau eraill yn Eisteddfod yr Urdd 
wythnos nesaf, ym mhabell Cyngor Sir Ynys M�diolch yn fawr iddynt am y 
lle!) felly dewch i gael sgwrs efo ni os liciwch.  Targed wythnos nesaf yw 
cyfieithu KOffice a dangos fersiwn erbyn diwedd yr wythnos!

Diolch unwaith eto i Thorben J�ling am ei holl waith caled ar y rhyddhad 
yma, sy'n dod allan 'mond deufis ar �.3.

Prif bwyntiau Cymrux 0.4:
Wedi diweddaru'r cnewyllyn i 2.4.26
Wedi diweddaru KDE i 3.2.2
Wedi ychwanegu GNOME 2.4
Wedi ychwanegu adeiladaeth Blackdown o Java 1.4.1
Wedi ychwanegu Psi, Tuxpaint, KSEG, XLogo a Nawtwll yn Gymraeg
Wedi diweddaru Scribus i 1.2cvs
Wedi ychwanegu y modiwl lufs a'r gyrryddion captive-ntfs i alluogi ysgrifennu 
i raniadau disg NTFS
Cynnail ffeiliau Java jar fel ffeiliau gweithredadwy drwy binfmt_misc
Adolygiad mawr o'r hen gyfundrefn glymu Knoppix, i'w symud hi yn hollol i 
hunan-glymu
Wedi ail-ysgrifennu'r ddogfennaeth, gan ddefnyddio Koncert ar gyfer y wefan 
byw, a wget i greu casgliad sefydlog o dudalennau o hon ar gyfer y CD
Wedi ychwanegu llawer o ddogfennaeth newydd

Mae Cymrux rwan yn cynnig bob un darn o feddalwedd rhydd sydd ar gael yn 
Gymraeg ar hyn o bryd, hyd y gwn i (heblaw rhai fel Gambas a QLiss3D).  Yn 
fersiynau dyfodol mi ellir llyfnhau rhai pethau bach, ac os oes pobl ar ochr 
GNOME sydd eisiau gweithio efo ni ar hyn, buasai hynny'n wych.  Ond mae 
gennym sail da rwan am gyhoeddusrwydd, diolch i Debian a Knoppix.

-- 

Best wishes

Kevin Donnelly

www.kyfieithu.co.uk - Meddalwedd Rhydd yn Gymraeg

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]