[gnome-cy] OpenOffice.org - Gwirydd Sillafu Cymraeg Newydd / New Welsh Spell Checker



Annwyl bawb,

Mae tîm E-Gymraeg, Canolfan Bedwyr Prifysgol Cymru, Bangor wedi rhyddhau ei wirydd sillafu Cymraeg ar gyfer OpenOffice.org 1.1.


Meddalwedd swyddfa poblogaidd cod agored, tebyg i Microsoft Office XP, yw OpenOffice.org. Mae'n gweithredu o fewn Windows, Linux, Solaris a'r Mac OS X. Os ydych chi'n gyfarwydd â defnyddio OpenOffice.org a'i wirydd sillafu Saesneg a chael llinellau coch o dan eiriau wedi'u camdeipio wrth i chi weithio, fe fyddwch chi'n siŵr o werthfawrogi'r gwirydd Cymraeg newydd.


Mae'r gwirydd ar gael yn rhad ac am ddim o'r cyfeiriadau canlynol:

http://www.e-gymraeg.co.uk/myspell/index.html

neu

http://lingucomponent.openoffice.org/spell_dic.html

Fe fydd y gwirydd ar gael hefyd ar CD Cysgliad a fydd yn cael ei ryddhau ddechrau’r haf.

O ddiddordeb i'r gymuned cod agored Gymraeg efallai yw bod Canolfan Bedwyr yn ogystal yn rhyddhau'r rhestr geiriau a ddefnyddiwyd i gynhyrchu'r gwirydd. Mae ar gael yn ôl trwydded GPL o :

http://www.e-gymraeg.co.uk/myspell/rhestrgeiriau.html


Noddir y gwirydd sillafu Cymraeg ar gyfer OpenOffice.org gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg. Hoffem ddiolch i'r rhai a yrrodd eu hadborth atom yn ystod y cyfnod treialu.

Dewi.

----

Dear all,

The e-Welsh team of Canolfan Bedwyr University of Wales, Bangor have released its Welsh spell checker for OpenOffice 1.1.

OpenOffice.org is an open source and popular office software suite similar to Microsoft Office XP. It can be run on Windows, Linux, Solaris and Mac OSX machines. If you are familiar with using OpenOffice.org and its English spell checker and getting red lines underneath misspelt words as you type, then you are sure to appreciate the new Welsh spell checker.

The checker is available as a free download from the following sites :

http://www.e-gymraeg.co.uk/myspell/index.html

or

http://lingucomponent.openoffice.org/spell_dic.html

The spell checker will also be available on the Cysgliad CD which will be released in the summer.

Of interest to the Welsh open source community, Canolfan Bedwyr is also releasing the word list used to produce the spell checker. It is available according to the GPL licence from:

http://www.e-gymraeg.co.uk/myspell/rhestrgeiriau.html


This work was sponsored by the Welsh Language Board. We would like to thank those who gave their feedback to us during trailing.

Dewi.

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy


[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]