Re: [gnome-cy] Linux and Welsh Windows



Sgrifennodd Dewi Jones:
> The Welsh windows announcement has raised the stakes.  [...]
> So I am more certain now of the need for a Welsh Live CD. Not just for 
> demo purposes but as the easiest alternative for current Windows users 
> to use, and not just XP users, but also Windows 98 and 2000 (which the 
> pack doesn't support). And I feel that a race is now on.

Dwi'n cytuno.  Ond fel dwedes i o'r blaen, dwi'n meddwl dylai fod
pecynnau mewnosod i Windows arno hefyd - fasai llawer o bobl a+ system
Windows 98 a 2000 eisiau meddalwedd Cymraeg sy'n cydweithio a+'u
rhaglenni Windows.  Ar yr un pryd, dan ni'n gallu marchnata GNU/Linux
i'r rhai sy'n barod i newid.

Dylai hi fod yn bosibl gwneud CD sy'n gweithio fel Knoppix (neu beth
bynnag), ond sy'n edrych fel CD mewnosod Windows os ti'n edrych arno fo
o sessiwn Windows.  Mae Windows yn defnyddio "Joliet" fel cofnod
cyfeiriadur ("directory record"), a mae Linux yn defnyddio "Rock Ridge",
felly mae modd dangos ffeiliau gwahanol i'r ddau system gweithredu.
Dwi'n fodlon i weithio arno os nad ydy neb sy'n gwybod mwy na fi ...

> When we're sure of the ability to carry it off, it would be newsworthy 
> perhaps to announce who might sponsor financially the CD productions or 
> who might have an interest in using the CD (e.g schools)

Beth fydd y cost?  Dan ni'n gwybod faint-ish mae copio CDs yn gostio,
ond beth arall sydd eisiau gwneud?

> Bwrdd Yr Iaith might have an interest. I really think that after 
> yesterday BYI should at least from now on give equal attention and 
> publicity to free Welsh software (Linux,Gnome+KDE, OOo and Mozilla) as 
> it did to Microsoft.

Oes digon o amser i drefnu pethau efo sefydliadau mawr fel 'na?  O'm
profiad o'r Wasanaeth Sifil, mae'n gallu cymryd misoedd i gael ymateb
weithiau!

-- 
$_=".--- ..- ... -  .- -. --- - .... . .-.  .--. . .-. .-..  .... .- -.-.".
" -.- . .-.\n";s!([.-]+) ?!$_=$1;y/-./10/;$_=chr(-1+ord pack"B*","01".0 x(5
-length)."1$_");y/DWYKAQMOCVLSFENU\\IGBHPJXZ[~nfb`_ow{}/a-z0-9/;$_!ge;print


_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]