Re: [gnome-cy] Screenshot



Llongyfarchiadau i'r ddau ohonnoch felly mae'n dda iawn gweld y
datblygiad hwn a'r cyfle i gael gweld Redhat 9 ar gael yn Gymraeg.
Gwych!

Hoffwn i awgrymu bod angen edrych ar rhai o'r termau sydd wedi cael eu
defnyddio. Ga i awgrymu ein bodf yn defnyddio Cadw am Save ac nid Arbed.
Mae Cadw'n fwy clir o lawer fel y weithred o gadw gwybodaeth ac at. e.e
cadw arian yn fy mhoced, cadw ffeil i ddisg.

Mae View yn anodd ond ar ol trafod gyda nifer o bobl penderfynnwyd mai
Golwg fyddai'r agosaf at y nifer o ystyron sy'n cael eu cyfleu gan View.

Wedi dweud hynny mae'r wych gweld gedit yn Gymraeg a dwi'n edrych ymlaen
i weld rhagor o Gnome yn ymddangos yn Gymraeg. Bydd Linux Mandrake yn
edrych yn well o lawer gyda rhyngwyneb Gnome wedi ei Chymreigio!!  :-)

Gyda llaw, gan fod fy  ngosodiad o Windows XP yn gwrtho cysylltu a'r we
dwi'n anfon hwn drwy Knoppix 3.2. Rhaid i mi ddweud ei fod yn arbennig o
dda. Mae'n cymryd tua'r un amser a Windows XP a Mandrake i lwytho ond
mae'n cynnig gosodiad newydd glan bob tro. Ar gyfer defnyddwyr Windows
mae'n ffordd di lol i ddefnyddio Linux am y tro cyntaf.

Rhos


On Thu, 2003-04-03 at 17:53, Alan Cox wrote:
> On Iau, 2003-04-03 at 17:02, Rhoslyn Prys wrote:
> > Llongyfarchiadau!  
> 
> Roedd Chris yn gwneud y rhan fwyaf o'r gwaith. Ron i'n adeiladu ffeiliau
> RPM.
> 
> > Mae gen i rhagor o ffeiliau .po os ydynt o gymorth - .po Abiword diweddaraf (91%) ac OpenOffice
> >  (30%) yn ogystal a Mandrake. Dwi wedi eu rhannu gyda Kevin, i'w llyncu gan Omnivore, ond mae 
> > croeso i unrhywun eu cael.
> 
> Diolch, dw i eisiau dysgu adeiladu OpenOffice yn y pen draw. Anfonech
> chi y ffeiliau .po ata i ?
> 
> > Gyda llaw ydy Abiword yn rhan o Redhat? Tydw i erioed wedi gweld Abiword Cymraeg yn Linux. 
> > (1.1.4 yw'r gorau ar hyn o bryd)
> 
> Dyna hen Abiword (1.0.4) gyda Red Hat 9 ond fy mod i adeiladu 1.1.4 iddo
> fe.
> 
> > Fyddai gan rhywun ddiddordeb mewn addasu'r ffeil aspell Cymraeg ar gyfer Abiword?
> 
> Dilwyn i ceisio  ar ol mae rhywbeth arddangos gyda nhw. Gobeithio mae iaith Cymraeg gyda 
> Red Hat nesaf.
> 
> Hwyl
> 
> Alan
> 
> 
> _______________________________________________
> gnome-cy mailing list
> gnome-cy pengwyn linux org uk
> http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy


_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]