[gnome-cy](no subject)



Helo pawb,

Wel, Dewi Jones ydw i, yn gwreiddiol o Bwllheli ond erbyn yn byw yng Ngharndolbenmaen, ger Porthmadog ac yn gweithio i Draig Technology (www.draig.co.uk) ym Mangor. Dwi erioed wedi cael cyfle i defnyddio Linux sorri, ond bues i'n gweithio gyda Nokia am chwe blynedd a Solaris oedd yr OS i ddatblygwyr yno. A diw fy meddylion i am M$ a Windows ddim yn rai garedig iawn o gwbl. Fy mwriad i yw i gallu symud i Linux rywbryd. 

Beth bynnag, fy niddordeb i yn y restr yma yw fy mod i'n un o'r creaduriaid (Rhoslyn Prys yw'r llall) sydd wedi bod ati dros gyfnod o dair blynedd yn gyfan gwbl yn cyfieithu fersiynnau o Mozilla i'r Gymraeg (ers M14 os oes rywun yn gydwybodol o hanes Mozilla). Y wefan yw:  www.gwelywiwr.org. 

btw, ar bore dydd Mawrth y 10fed rhwng 10 a 11 ar raglen Sian Thomas, mi fyddai'n siarad ar Radio Cymru ynghylch Gwe-lywiwr Mozilla. gulp.

Os mae o ddefnydd i chi, mae'r cyfieithiadau ganddo ni ar y wefan hefyd  e.e. 
Mozilla 1.00 : http://www.gwelywiwr.org/pecynnau/m100/cy-GB.jar.html

Dwi di bod wrthi'n ceisio ysgrifennu raglen bach Java i trawsffurfio ffeiliau testun Mozilla i ffurf ffeiliau .po (http://www.gwelywiwr.org/mtt/mtt.html) fel sydd yn KDE (a Gnome mwya debyg ia?) ond diw'r ffeilia ddim yn llwytho'n gywir i raglenni fel poEdit yn Windows. Oes rywun yn arbenigydd ar ffeiliau .po ar y restr 'ma?

Fel arall da ni'n defnyddio'r raglen i awto-gyfieithu fersiynnau newydd o Mozilla neu Netscape 7. 

Wel na fo am y tro, pob hwyl!!!
Dewi.

 




________________________________________________________________
Sent via the WebMail system at gwelywiwr.org


 
                   

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]