[gnome-cy]Cyfarfod posib



[meeting arranging: discussion of location, timing etc.]

Helo,

Mae nifer ohonom o'r farn bod angen cyfarfod o'r rhai sydd a^ diddordeb ym
mhrosiect gnome-cy. Neges yw hon, felly, i weld faint sydd am gyfarfod, o
ble y bydden nhw'n teithio, a pryd fyddai'n gyfleus/anghyfleus gyda'r
mwyafrif.

Pwrpas y cyfarfod? Well, cwrdd a'n gilydd ('thgwrs...) taflu syniadau o 
gylch y lle, a gweld pwy fyddai am wneud beth. Ac o bosib dangos rhai 
systemau cyfieithu sy'n bodoli'n barod.

Lleoliad? Yn bersonol, gan siarad ar ran neb ond fy hunan, Abertawe
fyddai'n ddelfrydol :) Os oes nifer o'r Gogledd am ddod i'r cyfarfod,
hwyrach mai Caerfyrddin/Llanbed neu efallai Aberystwyth fyddai'r lle
gorau i'w gynnal.

Dyddiad? Cyn gynted ag y bo modd; dyweder o fewn y bythefnos/dair 
wythnos nesaf. Os oes 'na gytundeb ar un diwrnod, gorau oll.

Pob hwyl
Rhys


_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]