[gnome-cy] gwahoddiad eGymraeg eWelsh invitation (fwd)



Helo,

Mae'n debyg y bydd nifer ar y rhestr wedi clywed am hyn yn barod trwy
amryw ffynhonellau - ac mae dau aelod o leiaf yn cymryd rhan. Felly, i'r
gweddill ohonoch...

It's more than likely that quite a few on this list will have heard about
this already through various sources - and two members, at least, are
taking part. For the rest of you...

Rhys

---------- Forwarded message ----------
Date: Thu, 07 Nov 2002 15:46:11 +0000
From: Delyth Prys <d prys bangor ac uk>
Subject: gwahoddiad eGymraeg eWelsh invitation

[English version below]
Cynhelir diwrnod e-Gymraeg dan nawdd Canolfan Bedwyr ym Mhfirfysgol Cymru,
Bangor rhwng 10.30 a.m. a 2.00 p.m. dydd Sadwrn Tachwedd 30, 2002.

Bwriad y diwrnod yw rhoi gwybod am y datblygiadau e-Gymraeg ym Mangor, a
rhoi cyfle i'r gymuned cod agored yn arbennig rannu eu gweledigaeth am y
ffordd ymlaen ar gyfer e-Gymraeg.

Gw. y daflen sydd ynghlwm [ffurf testun isod - Rhys] am fwy o fanylion - 
teimlwch yn rhydd i gopio a dosbarthu hon i eraill.

Er mwyn gwneud trefniadau ar gyfer cinio, byddai'n help petaech yn gyrru
e-bost yn ol ataf yn nodi y byddwch yn bresennol ar y diwrnod.

-------

An e-Welsh day will be held under the auspices of Canolfan Bedwyr at the
University of Wales, Bangor, on Saturnday, November 30 2002, between 10.30
a.m. and 2.00 p.m.

The day is intended to share information on e-Welsh developments at
Canolfan Bedwyr, and provide an opportunity for the open source community
in particular to share their vision of the way forward for e-Welsh.

See the attached document for further details - feel free to copy it and
pass it on to others.

To facilitate lunch arrangements (sandwiches will be provided) please
e-mail me to indicate whether you will be present.

Diolch yn fawr,
Delyth Prys
Canolfan Bedwyr
Prifysgol Cymru, Bangor


-------


[Dogfen oedd ynghlwm: attached document]

Diwrnod e-Gymraeg ym Mangor

Tachwedd 30, 2002 
10.30 a.m. - 2.00 p.m.

yn Siambr y Cyngor, Prif Adeilad y Celfyddydau
Prifysgol Cymru Bangor 
Darperir cyfieithu ar y pryd

Mae'r gwaith safoni termau a pheirianneg iaith ym Mhrifysgol Cymru, Bangor 
wedi'i ad-drefnu'n ddiweddar gan greu uned newydd yng Nghanolfan Bedwyr, 
Uned e-Gymraeg: Terminoleg a Pheirianneg Iaith. I ddathlu sefydlu'r uned, 
rydym yn gwahodd pawb sydd â diddordeb mewn Technoleg Gwybodaeth a 
Chyfathrebu a'r Gymraeg i ddiwrnod ym Mangor i gyfnewid syniadau a thrafod 
y ffordd ymlaen i'r Gymraeg yn yr e-amgylchedd cyfoes. Byddwn yn 
canolbwyntio'n arbennig ar yr hyn sydd gan feddalwedd cod agored i'w 
gynnig i ieithoedd bach fel y Gymraeg, gyda'r bwriad o sefydlu rhwydwaith 
cysylltiadau e-Gymraeg i hybu a rhoi cyfeiriad i'r gwaith hwn.

Bydd cyflwyniadau byr gan nifer o gyfranwyr, gan gynnwys
Dewi Jones (Canolfan Bedwyr a Gwe-lywiwr.org)
Rhoslyn Prys (Meddal.org)
Ned Thomas (OpenOffice)
Graham Kidd (Cod Agored a Llywodraeth Leol)
Euryn Ogwen (Creu e-Gymunedau)

ond uchafbwynt y dydd fydd y drafodaeth o gwmpas y bwrdd yn cyfnewid 
syniadau a gweledigaeth. Am ragor o fanylion, cysylltwch ag un o staff 
e-Gymraeg Canolfan Bedwyr:
Bill Hicks: w hicks bangor ac uk (01248 383245)
Dewi Jones: d b jones bangor ac uk (01248 383245)
Menna Morgan: m e morgan bangor ac uk (01248 383247)
Delyth Prys: d prys bangor ac uk (01248 382800)

-------

e-Welsh day at Bangor

November 30, 2002 
10.30 a.m. - 2.00 p.m.

in the Council Chamber, Main Arts Building
University of Wales, Bangor 
simultaneous translation will be provided

The terminology and language engineering work at the University of Wales, 
Bangor has been recently been reorganized, creating a new unit at Canolfan 
Bedwyr, e-Welsh: Terminology and Language Engineering. To celebrate the 
establishment of the unit, we invite everyone who is interested in ICT and 
the Welsh language to an event Bangor to exchange ideas and discuss the 
way forward for the Welsh language in the contemporary e-environment. We 
will be concentrating especially on what open source software has to offer 
small languages such as Welsh, with the intention of creating an e-Welsh 
network of contacts to promote and give direction to this work. 

There will be short presentations by a number of speakers, including 
Dewi Jones (Canolfan Bedwyr and Gwe-lywiwr.org)
Rhoslyn Prys (Meddal.org)
Ned Thomas (OpenOffice)
Graham Kidd (Open Source and Local Government)
Euryn Ogwen (Creating e-Communities)

but the highlight of the day will be a round table discussion to exchange 
ideas and vision. For further details, please contact one of the e-Welsh 
staff at Canolfan Bedwyr:
Bill Hicks: w hicks bangor ac uk (01248 383245)
Dewi Jones: d b jones bangor ac uk (01248 383245)
Menna Morgan: m e morgan bangor ac uk (01248 383247)
Delyth Prys: d prys bangor ac uk (01248 382800)


_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]