[gnome-cy] y "Translation Project"



Dwi'n meddwl cychwyn tîm Cymraeg ar gyfer y "Translation Project" --
prosiect sy'n trefnu cyfieithu meddalwedd rhydd. Mae'n nifer fawr o
ddarnau o feddalwedd yn defnyddio'r TP, yn cynnwys pecynnau sy'n
elfennau sylfaenol o systemau GNU (libc, fileutils, coreutils, bash,
gcc) a ffeiliau pwysig ô'r prosiect FreeDesktop.

Mae FreeDesktop (http://freedesktop.org) yn dod yn fwy a fwy pwysig ym
myd meddalwedd rhydd. Mae e nawr yn cynnwys GStreamer, sy'n sylfaen i
Totem a Rhythmbox (ymysg eraill) a fontconfig, sy'n tanseilio system
ffontiau GTK+. Mae hefyd yn cynnwys nifer o brosiectau arall, megis
cairo a D-BUS, sy'n debygol o fod yn rhannau pwysig o benbyrddau rhydd
yn y dyfodol.

Mae'r TP eisioes yn gyfrifol am dri modiwl (shared-mime-info,
scrollkeeper a xfree86_xkb_xml) a fydd yn rhaid eu cyfieithu erbyn i
GNOME 2.6 gael ei rhyddhau er mwyn cael cyfieithiad cyfan o GNOME bryd
hynny. Byddai creu tîm cymraeg hefyd yn ein galluogi ni i gyfieithu
meddalwedd sylfaenol GNU megis libc.

Mae un cwestiwn pwysig cyn i fi greu'r tîm: beth ddylai'r tîm ddefnyddio
fel rhestr trafod? Byddai'n bosib ailddefnyddio'r rhestr gnome-cy, neu
creu un newydd. Ymddengys i fi y defnyddir y rhestr gnome-cy eisioes ar gyfer
pob math o faterion sy'n gysylltiedig a chyfieithu meddalwedd rhydd i'r
Gymraeg, a nid ar gyfer cyfieithu GNOME yn unig. Beth mae pobl yn
meddwl: a ddyla i ailddefnyddio'r rhestr gnome-cy, neu a fasai'n well
cael rhestr newydd gellir ei ddefnyddio ar gyfer cyfieithu GNOME, KDE,
TP, ac unrhywbeth arall?

Dwi'n meddwl ei fod e ychydig yn od cael rhestr o'r enw "gnome-cy" sydd
ddim ar gyfer gnome-cy yn unig, mae e fel dweud fod y gwaith cyfieithu
arall yn eilol, sydd ddim yn wir o gwbl.

-- 
Dafydd

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]