Re: [gnome-cy] termau



> Diddorol.  Dydw i ddim yn meddwl o "clipboard" fel bocs, ond fel bwrdd efo 
> nodiadau "post-it" arno - fel "pinboard" yn Saesneg.

Knotes yw hwnna i fi :)

>  Mae klipper yn KDE yn 
> ymddwyn felly.  Felly i mi mae gludfwrdd yn gwneud mwy o synnwyr.

Mae klipper fwy tebyg i history yn bash ac wrth gwrs mae'n fwy addas i
OS sydd yn defnyddio'r llinell orchymyn. Mae gan 'clipboard'
ddiffiniad eitha penodol yng nghyfrifadureg sut bynnag mae KDE neu
Gnome yn penderfynu delio gyda fe. Mae Klipper yn storio'i gynnwys yn
barhaol mewn ffeil a mae hynny'n dangos fod ei bwrpas yn wahanol i
iawn i 'system clipboard'.
 
> > Sgwrs yw ymgom. Ond nid sgwrs yw bocsys deialog, ond un neu fwy o
> > gwestiynau gyda ateb penodol. Dyw'r gair saesneg ddim wedi cael ei
> > ddefnyddio mewn ffordd hollol gywir ond dwi ddim yn credu fod e'n
> > gwneud synnwyr defnyddio term anghyfarwydd i ddisgrifio rhywbeth lle
> > mae cyfieithiad hollol addas yn cael ei ddefnyddio bob dydd yn y byd
> > 'go iawn'.
> 
> Mae'r gair Saesneg yn dod o air Roeg am "two-speech", h.y. "conversation" neu 
> sgwrs, felly dydi "ymgom" ddim yn bell iawn o hynny.  Mae gan y defnyddiwr 
> dim dewis am y cwestiynau, ond mae ganddo ddewis am yr atebion :-)

Ie, ond nid sgwrs yw hynny ond 'questionnaire' lle mae naill ai flwch
Ie/Na/Ddim yn Gwybod neu flwch 'rhydd'. Mi fyddai holiadur yn derm yr
un mor addas ac ymgom/deialog.

> Mae'r pwynt lletach am ddefnyddio geiriau sy'n cael eu defnyddio yn barod yn 
> un anodd.  Swn i'n dweud bod rhaid hyd yn oed i bobl arferol Saesneg ddysgu 
> be mae "dialogue" yn golygu ym maes cyfrifiadureg, felly oes problem dysgu 
> gair Gymraeg yn lle un Saesneg/Groeg?

Mae'n dibynnu os ti'n credu mai pwrpas cyfieithu meddalwedd yw
ail-ddiffinio holl syniadau Cyfrifiadureg trwy gyfrwng y Gymraeg neu
cyfieithu system sy'n bodoli'n barod er mwyn cynyddu'r defnydd a
cynnig *dewis*. Os oedden i'n ail-enwi yr holl ddarnau o fewn
cyfrifiadureg gan ddechrau o 'first principles' fasen i yn
ail-ystyried llawer o'r termau cyffredin.

> yn berthyn i mi hefyd!) yn defnyddio pethau fel hyn.  Mae'n ddefnydd diddorol 
> iawn o iaith - geiriau Saesneg mewn matrics o gystrawen Gymraeg - ond YFMO 
> (IMHO) mae'n well defnyddio gair efo gwraidd Cymraeg lle bo'n bosib.

Fasen i'n cytuno os oedd hi'n 1997 a fod ni'n gallu bathu geiriau
Cymraeg cyn i'r Saesneg dod yn fwy cyfarwydd (a dyna beth oeddwn i'n
gwneud yn 1997 dweud y gwir). Ond mae hi'n 2003 a mae nifer o bobl
wedi safoni y termau Cymraeg yma yn barod drwy ei defnydd bob bydd yn
ogystal a drwy broses fwy ffurfiol, academaidd. Mae rhai o'r
cyfieithiadau hynny yn anghywir a mae angen ei newid (sydd bron yn
amhosib). Ond mae rhan fwyaf o'r cyfieithiadau arall yn hollol
dderbyniol.

_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]