[gnome-cy]Sori, a chroeso



[one-and-a-bit line summary: apologies for slight alias confusion, potted
bio, request for introductions, word-list pointer :)]

Helo,

Mae gennym nifer o aelodau newydd erbyn hyn. Ymddiheuriadau i'r rhai 
gafodd broblemau wrth danysgrifio; hyderwn fod yr eliasau cywir ar gael i 
gyd erbyn hyn.

Gwell cyflwyno'n hunain; Rhys ydw i. Wedi 'ngeni yng Nghaerfyrddin. Rwy'n
byw ar gyrion Abertawe. Dwi newydd orffen ymchwil i BT ar adnabod
lleferydd yn y Gymraeg, ac wedi creu cronfa o ddwy fil o leisiau Cymraeg
er mwyn (ceisio :) datblygu'r dechnoleg hynny.
http://www.speechdat.org/SpeechDat.html am y manylion; sylwer nad oes
posib clicio'r faner bellach.

Defnyddiwr Linux ers 1995, diolch i'r Gymdeithas Gyfrifiadurol yn y
Brifysgol. Defnyddiwr GNOME ers i Red Hat ei roi ar eu CD, ond defnyddiwr
KDE hefyd, ambell waith. Yn gweithio erbyn hyn i'r cwmni welir ar
http://www.rockfield.co.uk/ . Diddordebau eraill? Sgrifennu, golygu a
cherddoriaeth o bron bob math.

Wel, digon o gyflwyniad. Yn o^l Telsa, ein tasg gynta ni yw cyfieithu'r 
rhestr eiriau yma:
http://developer.gnome.org/documents/style-guide/wordlist.html

Oes gan rywun unrhyw sylwadau/awgrymiadau/rhestrau termau wedi'u safoni'n
barod?

Rhys
-- 
http://www.sucs.org/~rhys/



_______________________________________________
gnome-cy mailing list
gnome-cy pengwyn linux org uk
http://pengwyn.linux.org.uk/mailman/listinfo/gnome-cy



[Date Prev][Date Next]   [Thread Prev][Thread Next]   [Thread Index] [Date Index] [Author Index]